xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 5A wedi ei fewnosod (1.4.2025) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 57(2), 72(4); O.S. 2024/1337, ergl. 3(c)
(1)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a nodir mewn adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl.
(2)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)ynghylch y materion sy’n faterion perthnasol mewn perthynas â’r awdurdod;
(b)ynghylch ceisiadau i’r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(c)ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.
(3)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)ynghylch aelodau’r awdurdod y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.
(4)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau ailsefydlu gan awdurdodau lleol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)ynghylch cyn-aelodau’r awdurdod lleol y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu taliad ailsefydlu iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir gan yr awdurdod lleol.]