Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

[F169BSwyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—

(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a

(b)sydd am y tro yn gymwys i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).

(2)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) mewn cysylltiad â hwy.

(3)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.]