Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

[F169ASwyddogaeth sy’n ymwneud â thaliadau i aelodauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol—

(a)y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt;

(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt.

(2)Yn y Rhan hon materion perthnasol yw—

(a)materion sy’n ymwneud â busnes swyddogol aelodau awdurdodau perthnasol;

(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2 o Fesur 2011.

(3)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1) rhaid i’r Comisiwn osod un o’r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—

(a)y swm y mae rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod;

(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod.

(4)Caiff y Comisiwn benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion perthnasol i fwy na chyfran benodedig neu nifer penodedig o aelodau awdurdod perthnasol.

(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4) fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.

(6)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod perthnasol, fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.

(7)Caiff y Comisiwn osod—

(a)canran uchaf neu gyfradd‍ arall yr addasiad y caniateir i awdurdod perthnasol ei gwneud, ar gyfer blwyddyn ariannol, i’r symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â materion perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn honno;

(b)mynegrif y caniateir i awdurdod perthnasol ei ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â’r materion perthnasol hynny ar gyfer y flwyddyn flaenorol y bydd y Comisiwn yn penderfynu arnynt.

(8)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (7) er mwyn—

(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â’r un mater;

(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.

(9)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (7), rhaid i’r Comisiwn ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.

(10)Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4), neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (7), mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.

(11)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw’n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—

(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu

(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod iddo gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 69E ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.]