Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

52Hyrwyddo Biliau preifatLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff prif gyngor, yn unol â’r adran hon, hyrwyddo Bil preifat—

(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;

(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Dim ond os yw wedi ei fodloni ei bod yn hwylus gwneud hynny y caiff prif gyngor hyrwyddo Bil.

(3)Ond ni chaiff prif gyngor hyrwyddo Bil (p’un ai o dan yr adran hon neu fel arall) ar gyfer —

(a)ffurfio, newid neu ddileu unrhyw ardal llywodraeth leol,

(b)newid statws unrhyw ardal llywodraeth leol,

(c)newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol,

(d)ffurfio, newid neu ddileu trefniadau gweithrediaeth, neu

(e)newid y trefniadau ar gyfer ethol maer etholedig.

(4)Rhaid i benderfyniad prif gyngor i hyrwyddo Bil o dan yr adran hon—

(a)cael ei basio mewn cyfarfod o’r prif gyngor gan fwyafrif o gyfanswm ei aelodau, a

(b)cael ei gadarnhau gan fwyafrif cyffelyb mewn cyfarfod pellach o’r fath a gynhelir cyn gynted ag y bo ar ôl 14 diwrnod wedi i’r Bil gael ei adneuo yn Senedd y Deyrnas Unedig neu, yn ôl y digwydd, ei gyflwyno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Rhaid i brif gyngor beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (4) oni bai fod yr amodau yn is-adran (6) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarfod hwnnw.

(6)Yr amodau yw—

(a)bod y prif gyngor wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a

(b)bod cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.

(7)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (6)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd prif gyngor.

(8)Pan na fo penderfyniad wedi ei gadarnhau o dan is-adran (4)(b), rhaid i’r prif gyngor gymryd pob cam angenrheidiol i dynnu’r Bil yn ôl.

(9)Yn yr adran hon, mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr un ystyr ag “executive arrangements” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)