RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 7DARPARIAETH AMRYWIOL

49Ymchwiliadau lleol

(1)

Caiff y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor, beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo o dan y Rhan hon.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad â gorchymyn drafft a lunnir o dan adran 43.

(3)

Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad drwy wŷs ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol ar adeg ac mewn man a bennir yn y wŷs—

(a)

i roi tystiolaeth, neu

(b)

i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater dan sylw a ddelir gan y person neu sydd o dan reolaeth y person.

(4)

Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(5)

Rhaid talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol i berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol o dan is-adran (3).

(6)

Er gwaethaf is-adran (3)(b), ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno teitl (neu unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(7)

Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person—

(a)

yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad gwŷs a gyflwynir i’r person o dan is-adran (3) neu’n methu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath,

(b)

yn newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol i’r person ei chyflwyno o dan yr adran hon.

(8)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu’r carchar am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.

(9)

Caiff y person neu’r corff sy’n peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan yr adran hon wneud gorchmynion o ran—

(a)

costau’r partïon yn yr ymchwiliad, a

(b)

y partïon y mae’r costau i’w talu ganddynt.

(10)

Caniateir i orchymyn o dan is-adran (9) gael ei wneud yn un o reolau’r Uchel Lys ar gais parti a enwir yn y gorchymyn.