48Cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3LL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—
(a)i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon (gan gynnwys, pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion iddynt, adolygiadau pellach),
(b)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 28 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,
(c)i gynnal adolygiad o dan adran 29 ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd (o fewn ystyr adran 171 o Fesur 2011) fel pe bai’n ardal llywodraeth leol,
(d)i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,
(e)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
(3)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(5)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—
(a)i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
(b)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
(6)Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).
(7)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.
(8)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.
(9)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
