xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caniateir i unrhyw gorff cyhoeddus y mae newid ardal, diddymu neu gyfansoddi ardal neu ward etholiadol drwy orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 F1... yn effeithio arno, ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus arall yr effeithir arno ynghylch—
(a)unrhyw eiddo, incwm, hawliau neu rwymedigaethau y mae’r newid yn effeithio arnynt;
(b)unrhyw berthynas ariannol rhwng y partïon i’r cytundeb;
(c)unrhyw dreuliau y mae’r partïon yn mynd iddynt sy’n codi o ganlyniad i’r newid.
(2)Caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu—
(a)ar gyfer trosglwyddo neu gadw unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, gydag amodau neu hebddynt, ac ar gyfer defnyddio unrhyw eiddo ar y cyd;
(b)ar gyfer gwneud taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir neu a gedwir, neu ar gyfer y defnydd hwnnw ar y cyd, ac mewn cysylltiad â’r tâl neu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson;
(c)ar gyfer gwneud unrhyw daliad o’r fath drwy swm cyfalaf neu flwydd-dal terfynadwy.
(3)Pan na fo partïon yn gallu dod i gytundeb ar unrhyw fater, rhaid cyfeirio’r mater i gael ei gymrodeddu gan un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon neu, os na cheir y cyfryw gytundeb, a benodir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caiff dyfarniad y cymrodeddwr ddarparu ar gyfer unrhyw fater y caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu ar ei gyfer.
(5)Caniateir i unrhyw swm y mae’n ofynnol i gorff cyhoeddus ei dalu gael ei dalu—
(a)o’r gronfa neu’r ardreth y telir treuliau cyffredinol y corff cyhoeddus ohoni, neu
(b)o unrhyw gronfa neu ardreth arall y caiff y corff cyhoeddus benderfynu arni.
(6)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 44(1) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(b), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)