RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD

Cytundebau rhwng cyrff cyhoeddus i ymdrin â newid

44Cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid

(1)

Caniateir i unrhyw gorff cyhoeddus y mae newid ardal, diddymu neu gyfansoddi ardal neu ward etholiadol drwy orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno) yn effeithio arno, ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus arall yr effeithir arno ynghylch—

(a)

unrhyw eiddo, incwm, hawliau neu rwymedigaethau y mae’r newid yn effeithio arnynt;

(b)

unrhyw berthynas ariannol rhwng y partïon i’r cytundeb;

(c)

unrhyw dreuliau y mae’r partïon yn mynd iddynt sy’n codi o ganlyniad i’r newid.

(2)

Caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu—

(a)

ar gyfer trosglwyddo neu gadw unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, gydag amodau neu hebddynt, ac ar gyfer defnyddio unrhyw eiddo ar y cyd;

(b)

ar gyfer gwneud taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir neu a gedwir, neu ar gyfer y defnydd hwnnw ar y cyd, ac mewn cysylltiad â’r tâl neu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson;

(c)

ar gyfer gwneud unrhyw daliad o’r fath drwy swm cyfalaf neu flwydd-dal terfynadwy.

(3)

Pan na fo partïon yn gallu dod i gytundeb ar unrhyw fater, rhaid cyfeirio’r mater i gael ei gymrodeddu gan un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon neu, os na cheir y cyfryw gytundeb, a benodir gan Weinidogion Cymru.

(4)

Caiff dyfarniad y cymrodeddwr ddarparu ar gyfer unrhyw fater y caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu ar ei gyfer.

(5)

Caniateir i unrhyw swm y mae’n ofynnol i gorff cyhoeddus ei dalu gael ei dalu—

(a)

o’r gronfa neu’r ardreth y telir treuliau cyffredinol y corff cyhoeddus ohoni, neu

(b)

o unrhyw gronfa neu ardreth arall y caiff y corff cyhoeddus benderfynu arni.

(6)

Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).