Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

43Amrywio a dirymu gorchmynionLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ac eithrio fel y mae’r adran hon yn darparu ar ei gyfer, ni chaniateir amrywio na dirymu gorchmynion a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor drwy orchymyn amrywio neu ddirymu—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 y disgrifir ei math yn adran 40(2);

(b)unrhyw ddarpariaeth debyg mewn gorchymyn a wneir o dan adran 67 (trefniadau canlyniadol a throsiannol) neu a wneir yn rhinwedd adran 255 (trosglwyddo swyddogion) yn Neddf 1972.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adrannau (4) a (5), dim ond y personau neu’r corff a wnaeth y gorchymyn sy’n cynnwys y ddarpariaeth sydd i’w hamrywio neu i’w dirymu (“y gorchymyn gwreiddiol”) a gaiff wneud gorchymyn i amrywio neu ddirymu darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol—

(a)wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y bo’n ymwneud â Chymru, neu

(b)wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).

(5)Caiff prif gyngor wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol wedi ei wneud gan gyngor a’i rhagflaenodd ac nad yw’n bodoli mwyach.

(6)Ond dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud ag ardal y prif gyngor y caiff gorchymyn a wneir yn unol ag is-adran (5) amrywio neu ddirymu darpariaeth yn y gorchymyn gwreiddiol.

(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor gydymffurfio ag is-adrannau (8) a (9).

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor—

(a)anfon copi o’r drafft o’r gorchymyn i unrhyw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus y mae’r gorchymyn yn debygol o effeithio arno yn eu barn hwy neu yn ei farn ef,

(b)cyhoeddi’r gorchymyn drafft mewn modd sy’n debygol, yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, o’i ddwyn i sylw personau a chanddynt fuddiant yn y gorchymyn o bosibl,

(c)sicrhau bod copi o’r gorchymyn drafft ar gael i bersonau a chanddynt fuddiant edrych arno yn y mannau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, a

(d)gwahodd sylwadau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft o fewn y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi o dan baragraff (b).

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law o fewn y cyfnod o 2 fis a chânt addasu’r gorchymyn yng ngoleuni’r sylwadau hynny.

(10)Pan fo Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor yn fodlon bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu’r prif gyngor, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent hwy neu y mae ef o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

(11)Yn is-adran (10) mae “camgymeriad”, mewn perthynas â gorchymyn, yn cynnwys darpariaeth a gynhwysir yn y gorchymyn neu a hepgorir ohono gan ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a roddir gan unrhyw gorff cyhoeddus.

(12)Ni chaiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor arfer y pŵer yn is-adran (10) mewn perthynas â gorchymyn a wneir gan rywun arall.

[F1(12A)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddirymu gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 (ni waeth pa un a wnaethant hwy y gorchymyn ai peidio) o ganlyniad i reoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.]

(13)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)