RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD
Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithredu
43Amrywio a dirymu gorchmynion
(1)
Ac eithrio fel y mae’r adran hon yn darparu ar ei gyfer, ni chaniateir amrywio na dirymu gorchmynion a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor drwy orchymyn amrywio neu ddirymu—
(a)
unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 y disgrifir ei math yn adran 40(2);
(b)
unrhyw ddarpariaeth debyg mewn gorchymyn a wneir o dan adran 67 (trefniadau canlyniadol a throsiannol) neu a wneir yn rhinwedd adran 255 (trosglwyddo swyddogion) yn Neddf 1972.
(3)
Ac eithrio fel y darperir yn is-adrannau (4) a (5), dim ond y personau neu’r corff a wnaeth y gorchymyn sy’n cynnwys y ddarpariaeth sydd i’w hamrywio neu i’w dirymu (“y gorchymyn gwreiddiol”) a gaiff wneud gorchymyn i amrywio neu ddirymu darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2).
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol—
(a)
wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y bo’n ymwneud â Chymru, neu
(b)
wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
(5)
Caiff prif gyngor wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol wedi ei wneud gan gyngor a’i rhagflaenodd ac nad yw’n bodoli mwyach.
(6)
Ond dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud ag ardal y prif gyngor y caiff gorchymyn a wneir yn unol ag is-adran (5) amrywio neu ddirymu darpariaeth yn y gorchymyn gwreiddiol.
(7)
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor gydymffurfio ag is-adrannau (8) a (9).
(8)
Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor—
(a)
anfon copi o’r drafft o’r gorchymyn i unrhyw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus y mae’r gorchymyn yn debygol o effeithio arno yn eu barn hwy neu yn ei farn ef,
(b)
cyhoeddi’r gorchymyn drafft mewn modd sy’n debygol, yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, o’i ddwyn i sylw personau a chanddynt fuddiant yn y gorchymyn o bosibl,
(c)
sicrhau bod copi o’r gorchymyn drafft ar gael i bersonau a chanddynt fuddiant edrych arno yn y mannau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, a
(d)
gwahodd sylwadau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft o fewn y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi o dan baragraff (b).
(9)
Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law o fewn y cyfnod o 2 fis a chânt addasu’r gorchymyn yng ngoleuni’r sylwadau hynny.
(10)
Pan fo Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor yn fodlon bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu’r prif gyngor, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent hwy neu y mae ef o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn cywiro’r camgymeriad hwnnw.
(11)
Yn is-adran (10) mae “camgymeriad”, mewn perthynas â gorchymyn, yn cynnwys darpariaeth a gynhwysir yn y gorchymyn neu a hepgorir ohono gan ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a roddir gan unrhyw gorff cyhoeddus.
(12)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor arfer y pŵer yn is-adran (10) mewn perthynas â gorchymyn a wneir gan rywun arall.
F1(12A)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddirymu gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 (ni waeth pa un a wnaethant hwy y gorchymyn ai peidio) o ganlyniad i reoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
(13)
Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).