37Gweithredu gan Weinidogion CymruLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 23, 26, 27, 28 neu 29, neu gais am weithredu ei argymhellion o dan adran 39(7)—
(a)drwy orchymyn weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)penderfynu peidio â gweithredu [F1ar unrhyw argymhelliad].
(2)Er hynny, ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu argymhelliad gydag addasiadau oni bai ei fod—
(a)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 30 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad,
(b)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 33 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad, ac
(c)mewn unrhyw achos, os ydynt wedi eu bodloni bod yr addasiad er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
[F2(2A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).]
[F3(3A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.
(3B)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.]
(4)Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth bellach honno i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’i argymhellion fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.
[F4(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (3A).
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad at ddibenion is-adran (5).
(7)Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) nac unrhyw benderfyniad i beidio â gweithredu o dan is-adran (1)(b).]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 37(1)(b) wedi eu mewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(2)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F2A. 37(2A) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 47(3), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F3A. 37(3A)(3B) wedi ei amnewid ar gyfer (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 43(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F4A. 37(5)-(7) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(2)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
