RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD
Gweithredu gan Weinidogion Cymru
37Gweithredu gan Weinidogion Cymru
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 23, 26, 27, 28 neu 29, neu gais am weithredu ei argymhellion o dan adran 39(7)—
(a)
drwy orchymyn weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)
penderfynu peidio â gweithredu.
(2)
Er hynny, ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu argymhelliad gydag addasiadau oni bai ei fod—
(a)
mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 30 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad,
(b)
mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 33 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad, ac
(c)
mewn unrhyw achos, os ydynt wedi eu bodloni bod yr addasiad er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
(3)
Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1)(a) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru yr argymhellion wedi dod i ben.
(4)
Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth bellach honno i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’i argymhellion fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.