RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 4Y WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL
Y weithdrefn ar gyfer adolygiadau
36Adrodd ar yr adolygiad
(1)
Rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”), ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 35(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion i newid gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.
(2)
Yna rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad pellach.
(3)
Ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a)
unrhyw argymhelliad i newid y mae’r corff adolygu o’r farn ei fod yn briodol, neu os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i’r diben hwnnw,
(b)
manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac
(c)
manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
(4)
Pan fo adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a)
y newidiadau y mae’r corff adolygu yn bwriadu eu gwneud i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned dan adolygiad, neu os yw o’r farn nad yw newid o’r fath yn briodol, ddatganiad i’r diben hwnnw,
(b)
manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac
(c)
manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafodd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
(5)
Rhaid i’r corff adolygu—
(a)
cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i’r awdurdod gweithredu priodol (ac eithrio pan ef yw’r awdurdod gweithredu),
(b)
cyhoeddi’r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod sydd o leiaf yn 6 wythnos yn dechrau ar ddyddiad y cyhoeddi,
(c)
anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans ac (onid hwy yw’r awdurdod gweithredu) at Weinidogion Cymru,
(d)
hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 35 sut i gael copi o’r adroddiad.
(6)
At ddibenion is-adran (5), yr “awdurdod gweithredu priodol” yw—
(a)
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 23, Gweinidogion Cymru ac, mewn achos pan fo’r Comisiwn yn argymell newid i ardal heddlu, yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r newid hwnnw);
(b)
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, y Comisiwn;
(c)
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 26, 27, 28 neu 29, Gweinidogion Cymru;
(d)
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32, prif gyngor y gymuned a fu’n destun yr adolygiad.
(7)
Pan fo prif gyngor yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, nid yw’r Comisiwn i gael ei drin fel ymgynghorai gorfodol at ddibenion is-adran (5)(c).
(8)
At ddibenion yr adran hon mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—
(a)
os ef yw’r corff adolygu;
(b)
os yw ei ardal dan adolygiad;
(c)
os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.
(9)
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at argymhelliad i newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.