RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 3ADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL
Cymunedau
32Adolygu trefniadau etholiadol cymuned gan y Comisiwn
(1)
Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.
(2)
Yr amgylchiadau yw—
(a)
pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaeth prif gyngor o gynnal adolygiadau o dan adran 31(5);
(b)
pan ofynnwyd i’r Comisiwn gynnal adolygiad o gymuned gan—
(i)
y cyngor cymuned, neu
(ii)
dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol o’r gymuned;
(c)
pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer un neu ragor o’i gymunedau.
(3)
Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) yn dilyn cais gan gyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(4)
Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o dan yr adran hon—
(a)
yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)
o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(5)
Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(c), caiff adennill y gost am wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.
(6)
Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (5), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.
(7)
O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.