RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 3ADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL
Cymunedau
31Adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor
(1)
Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned yn ei ardal —
(a)
o’i wirfodd, neu
(b)
ar gais—
(i)
y cyngor cymuned ar gyfer y gymuned, neu
(ii)
dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol sydd wedi eu cofrestru yn y gymuned.
(2)
Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais y cyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)
Y newidiadau y caiff prif gyngor eu cynnig a’u gwneud mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon—
(a)
yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)
o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)
At ddibenion is-adran (3)(b), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.
(5)
Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 32) arfer swyddogaeth y cyngor o gynnal adolygiadau o dan yr adran hon.
(6)
Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
(7)
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol cymuned yn gyfeiriad at y canlynol—
(a)
nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y gymuned;
(b)
ei rhaniad yn wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;
(c)
nifer a ffiniau unrhyw wardiau;
(d)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;
(e)
enw unrhyw ward.