RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 3ADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL
Prif ardaloedd
30Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal
F1(1)
Wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—
(a)
dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol sydd yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal;
(b)
ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward etholiadol;
(c)
unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan newidiadau o’r fath.
(2)
At ddibenion is-adran (1)(a), rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)
unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a
(b)
unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.
(3)
Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18) y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
(4)
Yn y Rhan hon, ystyr “etholwr llywodraeth leol” yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl.