RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 3ADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL

Prif ardaloedd

29Adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal

(1)

Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)

Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas â phob cyfnod adolygu—

(a)

paratoi a chyhoeddi rhaglen sy’n nodi ei amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau sy’n ofynnol o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod, a

(b)

anfon copi o’r rhaglen at Weinidogion Cymru.

(3)

At ddibenion is-adrannau (1) a (2) ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)

y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)

pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

(4)

Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’i ddyletswyddau yn is-adran (2)—

(a)

mewn perthynas â’r cyfnod adolygu cyntaf, cyn gynted ag y bo modd wedi iddo ddechrau, a

(b)

mewn perthynas â phob cyfnod adolygu dilynol, cyn i’r cyfnod ddechrau.

(5)

Caiff y Comisiwn hefyd, o’i wirfodd neu ar gais prif gyngor, gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.

(6)

Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (5) ar gais prif gyngor os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(7)

Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)

y newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sydd dan adolygiad y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)

o ganlyniad i newid o’r fath—

(i)

y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal,

(ii)

y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol,

(iii)

y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(8)

Rhaid i’r Comisiwn beidio â gwneud neu gyhoeddi, yn unrhyw gyfnod o 9 mis cyn diwrnod etholiad arferol cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif ardal.

(9)

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol prif ardal yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)

nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal,

(b)

nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau,

(c)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno, a

(d)

enw unrhyw ward etholiadol.

(10)

At ddibenion is-adran (9)(b), mae cyfeiriad at y math o ward etholiadol yn gyfeiriad at a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod.

(11)

Yn y Rhan hon—

ystyr “ward amlaelod” yw unrhyw ward etholiadol y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno,

ystyr “ward etholiadol” yw unrhyw ardal yr etholir aelodau i awdurdod lleol ar ei chyfer, ac

ystyr “ward un aelod” yw ward etholiadol y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.