29Adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardalLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas â phob cyfnod adolygu—
(a)paratoi a chyhoeddi rhaglen sy’n nodi ei amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau sy’n ofynnol o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod, a
(b)anfon copi o’r rhaglen at Weinidogion Cymru.
(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) ystyr “cyfnod adolygu” yw—
(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y daw’r adran hon i rym, a
(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.
(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’i ddyletswyddau yn is-adran (2)—
(a)mewn perthynas â’r cyfnod adolygu cyntaf, cyn gynted ag y bo modd wedi iddo ddechrau, a
(b)mewn perthynas â phob cyfnod adolygu dilynol, cyn i’r cyfnod ddechrau.
(5)Caiff y Comisiwn hefyd, o’i wirfodd neu ar gais prif gyngor, gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.
(6)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (5) ar gais prif gyngor os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(7)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sydd dan adolygiad y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i newid o’r fath—
(i)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal,
(ii)y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol,
(iii)y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(8)Rhaid i’r Comisiwn beidio â gwneud neu gyhoeddi, yn unrhyw gyfnod o 9 mis cyn diwrnod etholiad arferol cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif ardal.
(9)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol prif ardal yn gyfeiriad at y canlynol—
(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal,
(b)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau,
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno, a
(d)enw unrhyw ward etholiadol.
(10)At ddibenion is-adran (9)(b), mae cyfeiriad at y math o ward etholiadol yn gyfeiriad at a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod.
(11)Yn y Rhan hon—
ystyr “ward amlaelod” yw unrhyw ward etholiadol y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno,
ystyr “ward etholiadol” yw unrhyw ardal yr etholir aelodau i awdurdod lleol ar ei chyfer, ac
ystyr “ward un aelod” yw ward etholiadol y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)