RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 2ADOLYGIADAU ARDAL

Ffiniau tua’r môr

28Adolygu ffiniau tua’r môr

(1)

Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o gymaint o ffin ardal llywodraeth leol (sy’n cynnwys, at ddibenion yr adran hon, sir wedi ei chadw)—

(a)

sy’n gorwedd o dan farc penllanw pan fo’r llanw’n ganolig, a

(b)

nad yw’n ffurfio ffin gyffredin ag ardal llywodraeth leol arall.

(2)

Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)

cynnwys o fewn yr ardal llywodraeth leol unrhyw ardal o’r môr nad yw, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o ardal llywodraeth leol arall, a

(b)

allgáu unrhyw ardal o’r môr sydd, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o’r ardal llywodraeth leol.