RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 2ADOLYGIADAU ARDAL
Cymunedau
26Adolygu ffiniau cymuned gan y Comisiwn
(1)
Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o un neu ragor o gymunedau mewn prif ardal.
(2)
Yr amgylchiadau yw—
(a)
pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaethau prif gyngor o dan adran 25(5),
(b)
pan fo prif gyngor wedi cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn o dan adran 36(5) ac —
(i)
argymhelliad y cyngor yw na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned,
(ii)
nad yw’r cyngor a’r Comisiwn yn gallu cytuno ar yr addasiadau hynny i’r argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn angenrheidiol iddo eu gweithredu,
(iii)
nad yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol i weithredu unrhyw un neu ragor o argymhellion y cyngor, neu
(iv)
bod y Comisiwn o’r farn na chafodd yr adolygiad ei gynnal gan y cyngor yn unol â’r Rhan hon neu fel arall ei fod yn ddiffygiol mewn modd sylweddol,
(c)
pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o un neu ragor o’i gymunedau.
(3)
Y newidiadau y caiff Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)
y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)
o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—
(i)
y gymuned neu’r cymunedau sydd dan adolygiad,
(ii)
y brif ardal,
y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)
Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(b)(iv) neu (c), caiff adennill y gost o wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.
(5)
Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.
(6)
O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.