RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 2ADOLYGIADAU ARDAL
Prif ardaloedd
23Adolygu ffiniau prif ardaloedd
(1)
Caiff y Comisiwn, o’i wirfodd neu ar gais gan awdurdod lleol, gynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd.
(2)
Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais awdurdod lleol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)
Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)
y newidiadau hynny i ffin prif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)
o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffin prif ardal, y newidiadau hynny i ffin cymuned, newidiadau i sir wedi ei chadw, newidiadau i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)
At ddibenion y Rhan hon—
(a)
mae cyfeiriad at “newid i ffin cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)
newid y ffin i gymuned;
(ii)
dileu cymuned;
(iii)
cyfansoddi cymuned newydd;
(b)
mae cyfeiriad at “newid i gyngor cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)
cyfansoddi cyngor ar gyfer cymuned neu gyngor cyffredin ar gyfer grŵp o gymunedau;
(ii)
diddymu cyngor cymuned (un ar wahân neu un cyffredin);
(iii)
gwahanu cymuned o grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(iv)
ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(c)
mae cyfeiriad at “newid i drefniadau etholiadol” yn gyfeiriad at newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol;
(d)
mae cyfeiriad at “newid i sir wedi ei chadw” yn gyfeiriad at newid i ardal sir wedi ei chadw;