23Adolygu ffiniau prif ardaloeddLL+C
(1)Caiff y Comisiwn, o’i wirfodd neu ar gais gan awdurdod lleol, gynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd.
(2)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais awdurdod lleol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffin prif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffin prif ardal, y newidiadau hynny i ffin cymuned, newidiadau i sir wedi ei chadw, newidiadau i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)At ddibenion y Rhan hon—
(a)mae cyfeiriad at “newid i ffin cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)newid y ffin i gymuned;
(ii)dileu cymuned;
(iii)cyfansoddi cymuned newydd;
(b)mae cyfeiriad at “newid i gyngor cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)cyfansoddi cyngor ar gyfer cymuned neu gyngor cyffredin ar gyfer grŵp o gymunedau;
(ii)diddymu cyngor cymuned (un ar wahân neu un cyffredin);
(iii)gwahanu cymuned o grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(iv)ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(c)mae cyfeiriad at “newid i drefniadau etholiadol” yn gyfeiriad at newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol;
(d)mae cyfeiriad at “newid i sir wedi ei chadw” yn gyfeiriad at newid i ardal sir wedi ei chadw;
(e)mae cyfeiriad at “newid i ffin prif ardal” yn gyfeiriad at—
(i)newid y ffin i brif ardal;
(ii)diddymu prif ardal;
(iii)cyfansoddi prif ardal newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)