Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

22Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardalLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i brif gyngor, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro—

(a)y cymunedau yn ei ardal, a

(b)trefniadau etholiadol y cymunedau hynny.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i brif gyngor—

(a)rhoi sylw i amserlen y Comisiwn ar gyfer cynnal yr adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardaloedd sy’n ofynnol gan adran 29(1), a

(b)cynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i brif gyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(4)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’r Comisiwn yr wybodaeth y gallai yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

[F1(5)Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)enwau cymunedau,

(b)newidiadau i ffiniau cymunedau,

(c)newidiadau i gynghorau cymuned, a

(d)trefniadau etholiadol cymunedau.

(6)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.

(7)Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)