RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 1DYLETSWYDDAU I FONITRO TREFNIADAU LLYWODRAETH LEOL

Dyletswydd y Comisiwn

21Dyletswydd y Comisiwn i fonitro trefniadau ar gyfer llywodraeth leol

(1)

Rhaid i’r Comisiwn, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro’r ardaloedd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru.

(2)

Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i’r Comisiwn gynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)

Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.