xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1RHAN 2ALL+CCYDLYNU GWAITH GWEINYDDU ETHOLIADOL

Y BwrddLL+C

20EY Bwrdd Rheoli EtholiadolLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu bwrdd o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol (“y Bwrdd”).

(2)Mae swyddogaethau’r Comisiwn o dan y darpariaethau a bennir yn is-adran (3) wedi eu dirprwyo i’r Bwrdd ac ni chaniateir iddynt gael eu harfer ond gan y Bwrdd.

(3)Y darpariaethau yw—

(a)adrannau 20A i 20D;

(b)pennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholiadol (Cymru) 2024 (peilota a diwygio etholiadau Cymreig);

(c)darpariaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i’r pwerau yn adran 12 gael eu harfer gan y Bwrdd neu’r Comisiwn mewn perthynas â’r swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo gan is-adran (2).

(5)Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer y swyddogaethau dirprwyedig.]