[F120ASwyddogaethau gweinyddu etholiadolLL+C
(1)Swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn yw cydlynu’r gwaith o weinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.
(2)Mae’r swyddogaeth gyffredinol yn is-adran (1) yn cynnwys—
(a)cynorthwyo swyddogion canlyniadau, awdurdodau lleol a phersonau eraill wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymreig;
(b)hybu arferion gorau o ran gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu hyfforddiant (neu fel arall).
(3)Caiff y Comisiwn ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall i Weinidogion Cymru ynghylch gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.
(4)Yn y Rhan hon ystyr “etholiadau a refferenda Cymreig” yw—
(a)etholiadau Senedd Cymru;
(b)etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru;
(c)refferenda datganoledig.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 2A wedi ei fewnosod (1.1.2025) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 1(2), 72(4); O.S. 2024/1337, ergl. 2(a)
