Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

18[F1Pwyllgor llywodraethu ac archwilio: aelodaeth a chworwm]LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

[F2(1)Mae aelodau’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio i fod fel a ganlyn—

(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn;

(b)o leiaf ddau aelod lleyg;

(c)dim mwy na phum aelod.

(2)Rhaid penodi aelod lleyg o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio—

(a)i gadeirio’r pwyllgor (y “cadeirydd”);

(b)yn ddirprwy i’r cadeirydd.

(2A)Ni chaiff person fod yn aelod o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio os yw’r person yn aelod o’r Comisiwn a’i fod naill ai’n aelod cadeirio’r Comisiwn neu’n gweithredu fel dirprwy i aelod cadeirio’r Comisiwn.

(2B)Tri aelod yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, a rhaid i’r cworwm gynnwys o leiaf un aelod lleyg.]

(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.

(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—

(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu

(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)