RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Materion ariannol
18Pwyllgor archwilio: aelodaeth
(1)
Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)
o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a
(b)
o leiaf un aelod lleyg.
(2)
Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)
Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.
(4)
Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)
Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—
(a)
un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu
(b)
arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).