Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

17[F1Pwyllgor llywodraethu ac archwilio]LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor [F2(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)] i—

(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,

(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,

[F3(ba)adolygu, asesu a rheoli trefniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn,

(bb)adolygu ac asesu sut y mae’r Comisiwn yn ymdrin â chwynion,

(bc)adolygu—

(i)datganiadau o gyfrifon ac adroddiadau a lunnir gan y Comisiwn o dan adrannau 19(1) ac 20,

(ii)adroddiadau a lunnir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 19(4),]

(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a

(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) [F4, (ba), (bb), (bc)] neu (c).

(2)Rhaid i’r pwyllgor [F5llywodraethu ac archwilio] anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

[F6(2A)Caiff y Comisiwn roi i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio y swyddogaethau y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn addas i’w harfer gan y pwyllgor.]

(3)Y pwyllgor [F7llywodraethu ac archwilio] sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.