RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Materion ariannol
17Pwyllgor archwilio
1
Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—
a
adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,
b
adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,
c
adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a
d
llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).
2
Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.
3
Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.