RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Materion ariannol
16Swyddog cyfrifyddu
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
2
Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
3
Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
a
cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
b
cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
c
cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
d
cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
e
cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.