xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 15 croesbennawd wedi eu mewnosod (1.1.2025) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 67(2), 72(4); O.S. 2024/1337, ergl. 2(o)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)