xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)
[F2(1A)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan unrhyw ddeddfiad, ac eithrio mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan—
(a)Rhan 2A (cydlynu gwaith gweinyddu etholiadol);
(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).
(1B)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon.
(1C)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cyfarwyddyd y maent yn ei roi i’r Comisiwn neu i brif gyngor o dan y Ddeddf hon.]
(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.
F3(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2A. 14(1A)-(1C) wedi ei amnewid ar gyfer a. 14(1) (1.1.2025) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), a. 72(4), Atod. 1 para. 1(3)(a); O.S. 2024/1337, ergl. 2(b)
F3A. 14(3) wedi ei hepgor (1.1.2025) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), a. 72(4), Atod. 1 para. 1(3)(b); O.S. 2024/1337, ergl. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)