13DirprwyoLL+C
(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu gomisiynydd cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan Benodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 [F1o’r Ddeddf hon] (swyddogaethau ynghylch cynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol) [F2, neu Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),] a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.
(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—
(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na
(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 13(1) wedi eu mewnosod (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2), Atod. 1 para. 13(a)
F2Geiriau yn a. 13(1) wedi eu mewnosod (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2), Atod. 1 para. 13(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)