RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadau

13Dirprwyo

(1)

Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu gomisiynydd cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan Benodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau ynghylch cynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol) a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—

(a)

cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na

(b)

gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.