[F111APŵer i godi tâlLL+C
(1)Caiff y Comisiwn godi tâl ar berson am ddarparu nwyddau neu wasanaethau fel a grybwyllir yn is-adran (2) i adennill cost y ddarpariaeth os yw’r person wedi cytuno i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gael eu darparu.
(2)Y nwyddau neu’r gwasanaethau yw—
(a)nwyddau y mae’r Comisiwn yn eu darparu neu’n eu sicrhau, neu hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau, wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20A (swyddogaethau gweinyddu etholiadol);
(b)hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau ar gyfer prif gyngor mewn cysylltiad â swyddogaethau’r cyngor o dan Ran 3.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 11A wedi ei fewnosod (1.1.2025) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 68(2), 72(4); O.S. 2024/1337, ergl. 2(p)