Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

11Comisiynwyr cynorthwyolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

[F1(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).]

(2)[F2Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn]

[F3(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]

[F4(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;]

(c)aelod o awdurdod lleol [F5neu’n aelod o staff awdurdod lleol] F6...;

F7(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F8, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

[F9(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.