RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol
11Comisiynwyr cynorthwyol
(1)
Caiff y Comisiwn benodi person (“comisiynydd cynorthwyol”) y caiff, at ddibenion adran 13, ddirprwyo swyddogaethau iddo.
(2)
Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn—
(a)
aelod Seneddol;
(b)
aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)
aelod o awdurdod lleol F1...;
(d)
swyddog i awdurdod lleol F2...;
(e)
aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)
comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)
aelod o staff y Comisiwn.
(3)
Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(4)
Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.
(5)
Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.