xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)
(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.
(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)