Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

1TrosolwgLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

[F1(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.]

[F2(2A)Mae Rhan 2A yn rhoi swyddogaethau gweinyddu etholiadol i’r Comisiwn ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddogaethau gael eu harfer gan fwrdd a sefydlir gan y Comisiwn o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol.]

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau, a dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau (gweler adrannau 21 a 22),

(b)y mathau o adolygiadau y gellir eu cynnal, yr ystyriaethau i’r corff adolygu eu hystyried a’r newidiadau y gellir eu hargymell mewn perthynas â phob math o adolygiad (gweler adrannau 23 i 33),

(c)y weithdrefn ar gyfer cynnal adolygiadau (gweler adrannau 34 i 36),

(d)gweithredu argymhellion yn dilyn adolygiad a materion cysylltiedig (megis trosglwyddo staff neu eiddo rhwng prif gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill) (gweler adrannau 37 i 44).

[F3(3A)Mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn.]

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol.

(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch penodi aelod llywyddol prif gyngor;

(b)sy’n ailddatgan ac yn ymestyn pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â hyrwyddo a gwrthwynebu Biliau preifat;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth cynghorau cymuned fod ar gael ar ffurf electronig;

(d)ynghylch cyhoeddi cofrestrau o fuddiannau aelodau cyrff cyhoeddus penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol) yn electronig;

(e)yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell;

(f)yn ymwneud â rôl pwyllgorau gwasanaethau democrataidd;

(g)sy’n cymhwyso gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol i bwyllgorau archwilio prif bwyllgorau;

F4(h). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(i)ynghylch sefydlu cyd-bwyllgorau safonau;

(j)sy’n galluogi’r pwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol i gyfeirio achosion sy’n ymwneud ag ymddygiad at bwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol arall.

[F5(5A)Mae Rhan 5A yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn wrth benderfynu ar y taliadau a’r pensiynau sy’n daladwy i aelodau a chyn-aelodau awdurdodau penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol).]

(6)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch y Ddeddf hon.