RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg

(1)

Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

(2)

Mae Rhan 2 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac yn diwygio ei gyfansoddiad a’i swyddogaethau.

(3)

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)

dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau, a dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau (gweler adrannau 21 a 22),

(b)

y mathau o adolygiadau y gellir eu cynnal, yr ystyriaethau i’r corff adolygu eu hystyried a’r newidiadau y gellir eu hargymell mewn perthynas â phob math o adolygiad (gweler adrannau 23 i 33),

(c)

y weithdrefn ar gyfer cynnal adolygiadau (gweler adrannau 34 i 36),

(d)

gweithredu argymhellion yn dilyn adolygiad a materion cysylltiedig (megis trosglwyddo staff neu eiddo rhwng prif gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill) (gweler adrannau 37 i 44).

(4)

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol.

(5)

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—

(a)

ynghylch penodi aelod llywyddol prif gyngor;

(b)

sy’n ailddatgan ac yn ymestyn pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â hyrwyddo a gwrthwynebu Biliau preifat;

(c)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth cynghorau cymuned fod ar gael ar ffurf electronig;

(d)

ynghylch cyhoeddi cofrestrau o fuddiannau aelodau cyrff cyhoeddus penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol) yn electronig;

(e)

yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell;

(f)

yn ymwneud â rôl pwyllgorau gwasanaethau democrataidd;

(g)

sy’n cymhwyso gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol i bwyllgorau archwilio prif bwyllgorau;

(h)

yn ymwneud â swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a sut y mae’n paratoi adroddiadau;

(i)

ynghylch sefydlu cyd-bwyllgorau safonau;

(j)

sy’n galluogi’r pwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol i gyfeirio achosion sy’n ymwneud ag ymddygiad at bwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol arall.

(6)

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch y Ddeddf hon.