xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CNEWIDIADAU ERAILL I LYWODRAETH LEOL

Mynychu cyfarfodydd o bellLL+C

59Mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bellLL+C

(1)Mae adran 4 o Fesur 2011 (mynychu cyfarfodydd o bell) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (4), yn lle’r geiriau “o bell” hyd at y diwedd, rhodder “mangre’r cyfarfod yn llai na 30% o gyfanswm nifer yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod.”.

(3)Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(4A)Nid yw is-adran (4) yn atal awdurdod lleol rhag creu rheolau sefydlog sy’n ei gwneud yn ofynnol fod mwy na 30% o gyfanswm yr aelodau sy’n bresennol mewn cyfarfod yn mynychu mangre’r cyfarfod i sicrhau cworwm..

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 59 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)