xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 1DYLETSWYDDAU I FONITRO TREFNIADAU LLYWODRAETH LEOL

Dyletswydd y Comisiwn

21Dyletswydd y Comisiwn i fonitro trefniadau ar gyfer llywodraeth leol

(1)Rhaid i’r Comisiwn, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro’r ardaloedd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i’r Comisiwn gynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Dyletswyddau prif gyngor

22Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal

(1)Rhaid i brif gyngor, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro—

(a)y cymunedau yn ei ardal, a

(b)trefniadau etholiadol y cymunedau hynny.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i brif gyngor—

(a)rhoi sylw i amserlen y Comisiwn ar gyfer cynnal yr adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardaloedd sy’n ofynnol gan adran 29(1), a

(b)cynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i brif gyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(4)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’r Comisiwn yr wybodaeth y gallai yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(5)Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob cyfnod adrodd, gyhoeddi adroddiad sy’n disgrifio sut y cyflawnodd ei ddyletswydd o dan is-adran (1) ac anfon copi o’r adroddiad at y Comisiwn.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda—

(i)y dyddiad pryd y cyhoeddwyd ddiwethaf adroddiad gan y prif gyngor o dan adran 55(2A) neu, os yw’n gynharach, adran 57(4A) o Ddeddf 1972, neu

(ii)yn achos prif gyngor nad yw wedi cyhoeddi adroddiad o’r fath cyn y daw’r adran hon i rym, y dyddiad pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

PENNOD 2ADOLYGIADAU ARDAL

Prif ardaloedd

23Adolygu ffiniau prif ardaloedd

(1)Caiff y Comisiwn, o’i wirfodd neu ar gais gan awdurdod lleol, gynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd.

(2)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais awdurdod lleol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffin prif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffin prif ardal, y newidiadau hynny i ffin cymuned, newidiadau i sir wedi ei chadw, newidiadau i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriad at “newid i ffin cymuned” yn gyfeiriad at—

(i)newid y ffin i gymuned;

(ii)dileu cymuned;

(iii)cyfansoddi cymuned newydd;

(b)mae cyfeiriad at “newid i gyngor cymuned” yn gyfeiriad at—

(i)cyfansoddi cyngor ar gyfer cymuned neu gyngor cyffredin ar gyfer grŵp o gymunedau;

(ii)diddymu cyngor cymuned (un ar wahân neu un cyffredin);

(iii)gwahanu cymuned o grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;

(iv)ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;

(c)mae cyfeiriad at “newid i drefniadau etholiadol” yn gyfeiriad at newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol;

(d)mae cyfeiriad at “newid i sir wedi ei chadw” yn gyfeiriad at newid i ardal sir wedi ei chadw;

(e)mae cyfeiriad at “newid i ffin prif ardal” yn gyfeiriad at—

(i)newid y ffin i brif ardal;

(ii)diddymu prif ardal;

(iii)cyfansoddi prif ardal newydd.

24Adolygu prif ardaloedd yn dilyn gorchymyn tref newydd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Trefi Newydd 1981 (p. 64) (dynodi ardaloedd o dir ar gyfer trefi newydd) sy’n dynodi unrhyw ardal o dir yn safle i dref newydd, a

(b)pan na fo’r ardal a ddynodwyd felly ar gyfer y dref newydd yn cael ei chynnwys yn ei chyfanrwydd o fewn prif ardal.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad gweithredu’r gorchymyn, hysbysu’r Comisiwn gan bennu’r prif ardaloedd y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt.

(3)Rhaid i’r Comisiwn, pan ddaw hysbysiad i law o dan is-adran (2), gynnal adolygiad o dan adran 23 o unrhyw brif ardaloedd a bennir yn yr hysbysiad.

Cymunedau

25Adolygu ffiniau cymuned gan brif gyngor

(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o un neu ragor o’r cymunedau yn ei ardal—

(a)o’i wirfodd, neu

(b)ar gais—

(i)cyngor cymuned yn ei ardal, neu

(ii)cyfarfod cymunedol yn ei ardal.

(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais cyngor cymuned neu gyfarfod cymunedol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—

(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd o dan adolygiad,

(ii)y brif ardal,

y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(ii), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.

(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 26) arfer swyddogaethau’r cyngor o dan yr adran hon.

(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

26Adolygu ffiniau cymuned gan y Comisiwn

(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o un neu ragor o gymunedau mewn prif ardal.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaethau prif gyngor o dan adran 25(5),

(b)pan fo prif gyngor wedi cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn o dan adran 36(5) ac —

(i)argymhelliad y cyngor yw na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned,

(ii)nad yw’r cyngor a’r Comisiwn yn gallu cytuno ar yr addasiadau hynny i’r argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn angenrheidiol iddo eu gweithredu,

(iii)nad yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol i weithredu unrhyw un neu ragor o argymhellion y cyngor, neu

(iv)bod y Comisiwn o’r farn na chafodd yr adolygiad ei gynnal gan y cyngor yn unol â’r Rhan hon neu fel arall ei fod yn ddiffygiol mewn modd sylweddol,

(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o un neu ragor o’i gymunedau.

(3)Y newidiadau y caiff Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—

(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd dan adolygiad,

(ii)y brif ardal,

y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(b)(iv) neu (c), caiff adennill y gost o wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.

(5)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.

(6)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.

Siroedd wedi eu cadw

27Adolygu siroedd wedi eu cadw

(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o un neu ragor o siroedd wedi eu cadw.

(2)Caiff y Comisiwn argymell y newidiadau hynny i ardal sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(3)Wrth ystyried a yw newidiadau i ardal y sir sydd wedi ei chadw yn rhai priodol (p’un ai mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon neu fel rhan o unrhyw adolygiad arall) rhaid i’r Comisiwn roi sylw, yn benodol, i’r dibenion dros gadw’r siroedd sydd wedi eu cadw.

(4)At ddibenion y Rhan hon, ystyr “sir wedi ei chadw” yw unrhyw sir a grëwyd gan Ddeddf 1972 yn sir yng Nghymru fel yr oedd hi yn union cyn pasio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan Ddeddf 1972 neu’r Ddeddf hon a bod y ddarpariaeth honno’n ail-lunio ei ffiniau.

Ffiniau tua’r môr

28Adolygu ffiniau tua’r môr

(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o gymaint o ffin ardal llywodraeth leol (sy’n cynnwys, at ddibenion yr adran hon, sir wedi ei chadw)—

(a)sy’n gorwedd o dan farc penllanw pan fo’r llanw’n ganolig, a

(b)nad yw’n ffurfio ffin gyffredin ag ardal llywodraeth leol arall.

(2)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)cynnwys o fewn yr ardal llywodraeth leol unrhyw ardal o’r môr nad yw, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o ardal llywodraeth leol arall, a

(b)allgáu unrhyw ardal o’r môr sydd, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o’r ardal llywodraeth leol.

PENNOD 3ADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL

Prif ardaloedd

29Adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas â phob cyfnod adolygu—

(a)paratoi a chyhoeddi rhaglen sy’n nodi ei amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau sy’n ofynnol o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod, a

(b)anfon copi o’r rhaglen at Weinidogion Cymru.

(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’i ddyletswyddau yn is-adran (2)—

(a)mewn perthynas â’r cyfnod adolygu cyntaf, cyn gynted ag y bo modd wedi iddo ddechrau, a

(b)mewn perthynas â phob cyfnod adolygu dilynol, cyn i’r cyfnod ddechrau.

(5)Caiff y Comisiwn hefyd, o’i wirfodd neu ar gais prif gyngor, gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.

(6)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (5) ar gais prif gyngor os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(7)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sydd dan adolygiad y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i newid o’r fath—

(i)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal,

(ii)y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol,

(iii)y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(8)Rhaid i’r Comisiwn beidio â gwneud neu gyhoeddi, yn unrhyw gyfnod o 9 mis cyn diwrnod etholiad arferol cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif ardal.

(9)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol prif ardal yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal,

(b)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau,

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno, a

(d)enw unrhyw ward etholiadol.

(10)At ddibenion is-adran (9)(b), mae cyfeiriad at y math o ward etholiadol yn gyfeiriad at a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod.

(11)Yn y Rhan hon—

30Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal

(1)Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal—

(a)ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly,

(b)rhoi sylw i’r canlynol—

(i)dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly,

(ii)dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a), rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a

(b)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18) y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “etholwr llywodraeth leol” yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl.

Cymunedau

31Adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor

(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned yn ei ardal —

(a)o’i wirfodd, neu

(b)ar gais—

(i)y cyngor cymuned ar gyfer y gymuned, neu

(ii)dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol sydd wedi eu cofrestru yn y gymuned.

(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais y cyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu cynnig a’u gwneud mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon—

(a)yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.

(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 32) arfer swyddogaeth y cyngor o gynnal adolygiadau o dan yr adran hon.

(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(7)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol cymuned yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y gymuned;

(b)ei rhaniad yn wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;

(c)nifer a ffiniau unrhyw wardiau;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;

(e)enw unrhyw ward.

32Adolygu trefniadau etholiadol cymuned gan y Comisiwn

(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaeth prif gyngor o gynnal adolygiadau o dan adran 31(5);

(b)pan ofynnwyd i’r Comisiwn gynnal adolygiad o gymuned gan—

(i)y cyngor cymuned, neu

(ii)dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol o’r gymuned;

(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer un neu ragor o’i gymunedau.

(3)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) yn dilyn cais gan gyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(4)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o dan yr adran hon—

(a)yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(5)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(c), caiff adennill y gost am wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.

(6)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (5), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.

(7)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.

33Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor yn ystyried gwneud neu, yn ôl y digwydd, pan fo’r Comisiwn yn ystyried argymell, newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.

(2)Wrth ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned yn y fath fodd sy’n gwneud un etholiad o gynghorwyr cyngor cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a

(b)a yw’n ddymunol y dylai unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.

(3)Pan benderfynir rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, dylid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl unrhyw argymhelliad,

(b)dymunoldeb pennu ffiniau sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, ac

(c)unrhyw gwlwm lleol a fydd yn cael ei dorri wrth bennu ffiniau penodol.

(4)Pan benderfynir peidio â rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, dylid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a

(b)unrhyw newid yn y nifer neu’r dosbarthiad hwnnw sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.

(5)At ddibenion yr adran hon, rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny (o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18)) y mae’r Comisiwn, neu yn ôl y digwydd, y prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol.

PENNOD 4Y WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL

Y weithdrefn ar gyfer adolygiadau

34Y weithdrefn ragadolygu

(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dod â’r adolygiad i sylw ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae ganddynt fuddiant yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)O ran adolygiad sydd i’w gynnal o dan adran 29, cyn cynnal yr adolygiad, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr adolygiad ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu nifer priodol yr aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu’r ardaloedd sydd dan adolygiad.

(3)At ddibenion y Rhan hon, yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—

(a)unrhyw awdurdod lleol y mae’r adolygiad yn effeithio arno,

(b)ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 28 (adolygu ffiniau tua’r môr), comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr adolygiad effeithio arni,

(c)ac eithrio pan fo’r adolygiad yn cael ei gynnal (neu i’w gynnal) ganddo ef, y Comisiwn,

(d)unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy, a

(e)unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii).

35Ymgynghori ac ymchwilio

(1)Wrth gynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”)—

(a)ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)cynnal yr ymchwiliadau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad a’r ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad sy’n cynnwys—

(a)unrhyw gynigion ar gyfer newid y mae o’r farn eu bod yn briodol neu, os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, cynnig i’r diben hwnnw,

(b)manylion o’r adolygiad y mae wedi ei gynnal.

(3)Rhaid i’r corff adolygu—

(a)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant yn yr adolygiad ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth i’r corff adolygu sut i gael copi o’r adroddiad, ac

(e)gwahodd sylwadau a hysbysu’r personau a grybwyllir yn (c) a (d) am y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)At ddibenion is-adran (3), y “cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y corff adolygu) yn dechrau dim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.

(5)At ddibenion yr adran hon, mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—

(a)os ef yw’r corff adolygu,

(b)os yw ei ardal dan adolygiad,

(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.

(6)Yn yr adran hon ac yn adran 36 mae cyfeiriad at gynnig newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.

36Adrodd ar yr adolygiad

(1)Rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”), ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 35(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion i newid gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.

(2)Yna rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad pellach.

(3)Ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)unrhyw argymhelliad i newid y mae’r corff adolygu o’r farn ei fod yn briodol, neu os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i’r diben hwnnw,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Pan fo adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)y newidiadau y mae’r corff adolygu yn bwriadu eu gwneud i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned dan adolygiad, neu os yw o’r farn nad yw newid o’r fath yn briodol, ddatganiad i’r diben hwnnw,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafodd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(5)Rhaid i’r corff adolygu—

(a)cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i’r awdurdod gweithredu priodol (ac eithrio pan ef yw’r awdurdod gweithredu),

(b)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod sydd o leiaf yn 6 wythnos yn dechrau ar ddyddiad y cyhoeddi,

(c)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans ac (onid hwy yw’r awdurdod gweithredu) at Weinidogion Cymru,

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 35 sut i gael copi o’r adroddiad.

(6)At ddibenion is-adran (5), yr “awdurdod gweithredu priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 23, Gweinidogion Cymru ac, mewn achos pan fo’r Comisiwn yn argymell newid i ardal heddlu, yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r newid hwnnw);

(b)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, y Comisiwn;

(c)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 26, 27, 28 neu 29, Gweinidogion Cymru;

(d)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32, prif gyngor y gymuned a fu’n destun yr adolygiad.

(7)Pan fo prif gyngor yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, nid yw’r Comisiwn i gael ei drin fel ymgynghorai gorfodol at ddibenion is-adran (5)(c).

(8)At ddibenion yr adran hon mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—

(a)os ef yw’r corff adolygu;

(b)os yw ei ardal dan adolygiad;

(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.

(9)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at argymhelliad i newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.

PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD

Gweithredu gan Weinidogion Cymru

37Gweithredu gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 23, 26, 27, 28 neu 29, neu gais am weithredu ei argymhellion o dan adran 39(7)—

(a)drwy orchymyn weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)penderfynu peidio â gweithredu.

(2)Er hynny, ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu argymhelliad gydag addasiadau oni bai ei fod—

(a)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 30 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad,

(b)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 33 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad, ac

(c)mewn unrhyw achos, os ydynt wedi eu bodloni bod yr addasiad er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(3)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1)(a) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru yr argymhellion wedi dod i ben.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth bellach honno i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’i argymhellion fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

Gweithredu anweinidogol

38Gweithredu newid i ffin cymuned

(1)Caiff y Comisiwn, ar ôl iddo gael adroddiad yn cynnwys argymhellion i newid oddi wrth brif gyngor mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 25—

(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,

(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y mae’r prif gyngor yn cytuno arnynt, neu

(c)yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii), gynnal ei adolygiad ei hun.

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Comisiwn argymhellion y prif gyngor wedi dod i ben.

(3)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.

(4)Rhaid i’r prif gyngor a wnaeth yr argymhellion roi i’r Comisiwn yr wybodaeth bellach honno mewn perthynas â’r argymhellion neu’r weithdrefn a ddilynwyd fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

39Gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned

(1)Caiff prif gyngor, drwy orchymyn, weithredu’r newidiadau a ddisgrifir mewn adroddiad a luniwyd gan y cyngor o dan adran 36(4).

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddodd y prif gyngor ei adroddiad.

(3)Caiff prif gyngor, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer newid oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32—

(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,

(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y cytunir arnynt â’r Comisiwn,

(c)penderfynu peidio â gweithredu a hysbysu’r Comisiwn yn unol â hynny.

(4)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (3) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r cyngor yn cael yr adroddiad.

(5)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) neu (3) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.

(6)Mae is-adran (7) yn gymwys—

(a)pan fo’r prif gyngor wedi hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion, neu

(b)pan na fo’r prif gyngor wedi gwneud gorchymyn (gydag addasiadau neu hebddynt) o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y cyngor argymhellion y Comisiwn.

(7)Caiff y Comisiwn ofyn i Weinidogion Cymru weithredu’r argymhellion o dan adran 37.

Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithredu

40Gorchmynion gweithredu: darpariaeth ganlyniadol

(1)Caniateir i orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu brif gyngor o dan adran 37, 38, 39 neu 43 wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy neu ei farn ef.

(2)Caniateir i’r gorchmynion hynny, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)enw unrhyw ardal neu ward etholiadol sydd wedi ei newid;

(b)cyfanswm nifer y cynghorwyr, dosraniad cynghorwyr ymhlith wardiau etholiadol, neilltuo cynghorwyr presennol i wardiau etholiadol newydd neu wardiau etholiadol sydd wedi eu newid ac etholiad cyntaf cynghorwyr i unrhyw ward etholiadol newydd neu unrhyw ward etholiadol sydd wedi ei newid;

(c)cynnal etholiad newydd i gynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol yn yr ardal llywodraeth leol dan sylw;

(d)y drefn ar gyfer ymddeoliad cynghorwyr ar gyfer ward etholiadol;

(e)cyfansoddiad unrhyw gorff cyhoeddus mewn unrhyw ardal neu ward etholiadol y mae’r gorchymyn yn effeithio arni, etholiad iddo ac aelodaeth ohono;

(f)unrhyw un neu ragor o’r materion a ddisgrifir yn adran 41(2).

(3)Dim ond o ganlyniad i newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal a wnaed yn dilyn adolygiad o dan Bennod 3 y caniateir gwneud darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2)(c).

(4)Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 37 neu 43 gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).

(6)Yn yr adran hon—

41Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol gyffredinol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i orchmynion a wneir o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)swyddogaethau, ardal neu awdurdodaeth mewn neu dros ardal (neu ran o ardal) unrhyw gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus o fewn ardal (neu ward etholiadol) y mae gorchymyn a wneir o dan y Rhan hon yn effeithio arni;

(b)costau a threuliau corff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus y mae’r cyfryw orchymyn yn effeithio arnynt;

(c)trosglwyddo staff cyrff cyhoeddus neu swyddi cyhoeddus yr effeithir arnynt;

(d)trosglwyddo, rheoli neu warchod eiddo (boed yn eiddo tirol neu’n eiddo personol) a throsglwyddo hawliau a rhwymedigaethau;

(e)trosglwyddo achosion cyfreithiol.

(3)Caniateir i’r rheoliadau o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).

(5)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

42Trosglwyddo staff

Rhaid i orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu, yn ôl y digwydd, reoliadau o dan adran 41 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff gynnwys darpariaeth i sicrhau—

(a)bod person a drosglwyddir i gyflogwr newydd yn aros ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai yr oedd y person yn ddarostyngedig iddynt cyn iddo drosglwyddo hyd nes bod y person—

(i)yn gadael cyflogaeth y cyflogwr newydd, neu

(ii)yn cael datganiad ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y gorchymyn neu’r rheoliadau ac sy’n pennu telerau ac amodau cyflogaeth newydd, a

(b)ar yr amod bod y person yn cyflawni dyletswyddau sy’n rhesymol debyg i’r rhai yr oedd yn eu cyflawni yn union cyn y trosglwyddo, nad yw unrhyw delerau ac amodau newydd a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (a)(ii) yn llai ffafriol na’r rhai a oedd gan y person cyn y trosglwyddo.

43Amrywio a dirymu gorchmynion

(1)Ac eithrio fel y mae’r adran hon yn darparu ar ei gyfer, ni chaniateir amrywio na dirymu gorchmynion a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor drwy orchymyn amrywio neu ddirymu—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 y disgrifir ei math yn adran 40(2);

(b)unrhyw ddarpariaeth debyg mewn gorchymyn a wneir o dan adran 67 (trefniadau canlyniadol a throsiannol) neu a wneir yn rhinwedd adran 255 (trosglwyddo swyddogion) yn Neddf 1972.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adrannau (4) a (5), dim ond y personau neu’r corff a wnaeth y gorchymyn sy’n cynnwys y ddarpariaeth sydd i’w hamrywio neu i’w dirymu (“y gorchymyn gwreiddiol”) a gaiff wneud gorchymyn i amrywio neu ddirymu darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol—

(a)wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y bo’n ymwneud â Chymru, neu

(b)wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).

(5)Caiff prif gyngor wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol wedi ei wneud gan gyngor a’i rhagflaenodd ac nad yw’n bodoli mwyach.

(6)Ond dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud ag ardal y prif gyngor y caiff gorchymyn a wneir yn unol ag is-adran (5) amrywio neu ddirymu darpariaeth yn y gorchymyn gwreiddiol.

(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor gydymffurfio ag is-adrannau (8) a (9).

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor—

(a)anfon copi o’r drafft o’r gorchymyn i unrhyw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus y mae’r gorchymyn yn debygol o effeithio arno yn eu barn hwy neu yn ei farn ef,

(b)cyhoeddi’r gorchymyn drafft mewn modd sy’n debygol, yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, o’i ddwyn i sylw personau a chanddynt fuddiant yn y gorchymyn o bosibl,

(c)sicrhau bod copi o’r gorchymyn drafft ar gael i bersonau a chanddynt fuddiant edrych arno yn y mannau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, a

(d)gwahodd sylwadau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft o fewn y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi o dan baragraff (b).

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law o fewn y cyfnod o 2 fis a chânt addasu’r gorchymyn yng ngoleuni’r sylwadau hynny.

(10)Pan fo Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor yn fodlon bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu’r prif gyngor, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent hwy neu y mae ef o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

(11)Yn is-adran (10) mae “camgymeriad”, mewn perthynas â gorchymyn, yn cynnwys darpariaeth a gynhwysir yn y gorchymyn neu a hepgorir ohono gan ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a roddir gan unrhyw gorff cyhoeddus.

(12)Ni chaiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor arfer y pŵer yn is-adran (10) mewn perthynas â gorchymyn a wneir gan rywun arall.

(13)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

Cytundebau rhwng cyrff cyhoeddus i ymdrin â newid

44Cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid

(1)Caniateir i unrhyw gorff cyhoeddus y mae newid ardal, diddymu neu gyfansoddi ardal neu ward etholiadol drwy orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno) yn effeithio arno, ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus arall yr effeithir arno ynghylch—

(a)unrhyw eiddo, incwm, hawliau neu rwymedigaethau y mae’r newid yn effeithio arnynt;

(b)unrhyw berthynas ariannol rhwng y partïon i’r cytundeb;

(c)unrhyw dreuliau y mae’r partïon yn mynd iddynt sy’n codi o ganlyniad i’r newid.

(2)Caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu—

(a)ar gyfer trosglwyddo neu gadw unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, gydag amodau neu hebddynt, ac ar gyfer defnyddio unrhyw eiddo ar y cyd;

(b)ar gyfer gwneud taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir neu a gedwir, neu ar gyfer y defnydd hwnnw ar y cyd, ac mewn cysylltiad â’r tâl neu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson;

(c)ar gyfer gwneud unrhyw daliad o’r fath drwy swm cyfalaf neu flwydd-dal terfynadwy.

(3)Pan na fo partïon yn gallu dod i gytundeb ar unrhyw fater, rhaid cyfeirio’r mater i gael ei gymrodeddu gan un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon neu, os na cheir y cyfryw gytundeb, a benodir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caiff dyfarniad y cymrodeddwr ddarparu ar gyfer unrhyw fater y caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu ar ei gyfer.

(5)Caniateir i unrhyw swm y mae’n ofynnol i gorff cyhoeddus ei dalu gael ei dalu—

(a)o’r gronfa neu’r ardreth y telir treuliau cyffredinol y corff cyhoeddus ohoni, neu

(b)o unrhyw gronfa neu ardreth arall y caiff y corff cyhoeddus benderfynu arni.

(6)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

PENNOD 6DARPARIAETH ARALL SY’N BERTHNASOL I FFINIAU AWDURDODAU LLEOL

45Newid ardal heddlu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd o dan adran 23.

(2)Yn ogystal â’r newidiadau y caniateir eu hargymell o dan adran 23(3) caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag unrhyw newid i ffin prif ardal, argymell unrhyw newidiadau i ardal neu ardaloedd heddlu (gan gynnwys newidiadau sy’n arwain at leihad neu gynnydd yn nifer ardaloedd heddlu) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 23—

(a)drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, weithredu unrhyw argymhellion i newid ardal heddlu, gydag addasiadau neu hebddynt,

(b)os yw’n bwriadu gweithredu’r argymhellion gydag addasiadau, gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad pellach o dan adran 23 o’r prif ardaloedd hynny y mae’r argymhellion yn effeithio arnynt a bennir yn y cyfarwyddyd, neu

(c)penderfynu peidio â gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).

(5)Caniateir i orchymyn a wneir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)darpariaeth i gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu y mae’r gorchymyn yn effeithio arni ddod yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,

(b)darpariaeth i gynnal etholiad am gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,

(c)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.

(6)Caiff gorchymyn sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5)(b) ei gwneud yn ofynnol i’r etholiad dan sylw gael ei gynnal cyn i’r newid i ardaloedd heddlu gael effaith.

(7)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(8)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon ddarparu i brif ardal gael ei rhannu rhwng 2 neu ragor o ardaloedd heddlu.

(9)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y adran hon nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr argymhellion wedi dod i ben.

46Rhychwant ffiniau tua’r môr

(1)Mae unrhyw ran o lannau’r môr i farc y distyll yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.

(2)Mae pob croniant o’r môr (boed yn naturiol neu’n artiffisial) yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.

(3)Mae pob croniant neu ran o lannau’r môr sy’n ffurfio rhan o gymuned o dan yr adran hon hefyd yn ffurfio rhan o’r brif ardal a’r sir wedi ei chadw lle y mae’r gymuned.

47Newid ffin yn dilyn newid cwrs dŵr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cwrs dŵr yn ffurfio llinell ffin rhwng dwy neu ragor o ardaloedd llywodraeth leol.

(2)Os newidir y cwrs dŵr, drwy arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57), Deddf Draenio Tir 1991 (p. 59) neu unrhyw ddeddfiad arall, mewn unrhyw ffordd sy’n effeithio ar ei gymeriad fel llinell ffin, rhaid i’r person y gwneir y newid o dan ei awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru am y newid cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio llinell ffin y mae hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) yn ymwneud â hi drwy roi llinell ffin newydd (boed a yw’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n rhannol linell y cwrs dŵr fel y’i newidiwyd) yn lle cymaint o linell y ffin honno ag a oedd ar linell y cwrs dŵr cyn y newid.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (3).

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn y modd sy’n briodol yn eu barn hwy, gyhoeddi hysbysiad o unrhyw orchymyn a wneir o dan yr adran hon.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at ardal lywodraeth leol yn cynnwys cyfeiriad at sir wedi ei chadw.

PENNOD 7DARPARIAETH AMRYWIOL

48Cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—

(a)i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon (gan gynnwys, pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion iddynt, adolygiadau pellach),

(b)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 28 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,

(c)i gynnal adolygiad o dan adran 29 ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd (o fewn ystyr adran 171 o Fesur 2011) fel pe bai’n ardal llywodraeth leol,

(d)i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,

(e)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.

(3)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(5)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—

(a)i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,

(b)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.

(6)Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).

(7)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.

(8)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.

(9)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

49Ymchwiliadau lleol

(1)Caiff y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor, beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad â gorchymyn drafft a lunnir o dan adran 43.

(3)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad drwy wŷs ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol ar adeg ac mewn man a bennir yn y wŷs—

(a)i roi tystiolaeth, neu

(b)i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater dan sylw a ddelir gan y person neu sydd o dan reolaeth y person.

(4)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(5)Rhaid talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol i berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol o dan is-adran (3).

(6)Er gwaethaf is-adran (3)(b), ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno teitl (neu unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person—

(a)yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad gwŷs a gyflwynir i’r person o dan is-adran (3) neu’n methu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath,

(b)yn newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol i’r person ei chyflwyno o dan yr adran hon.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu’r carchar am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.

(9)Caiff y person neu’r corff sy’n peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan yr adran hon wneud gorchmynion o ran—

(a)costau’r partïon yn yr ymchwiliad, a

(b)y partïon y mae’r costau i’w talu ganddynt.

(10)Caniateir i orchymyn o dan is-adran (9) gael ei wneud yn un o reolau’r Uchel Lys ar gais parti a enwir yn y gorchymyn.