xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff y Comisiwn, o’i wirfodd neu ar gais gan awdurdod lleol, gynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd.
(2)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais awdurdod lleol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffin prif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffin prif ardal, y newidiadau hynny i ffin cymuned, newidiadau i sir wedi ei chadw, newidiadau i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)At ddibenion y Rhan hon—
(a)mae cyfeiriad at “newid i ffin cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)newid y ffin i gymuned;
(ii)dileu cymuned;
(iii)cyfansoddi cymuned newydd;
(b)mae cyfeiriad at “newid i gyngor cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)cyfansoddi cyngor ar gyfer cymuned neu gyngor cyffredin ar gyfer grŵp o gymunedau;
(ii)diddymu cyngor cymuned (un ar wahân neu un cyffredin);
(iii)gwahanu cymuned o grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(iv)ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(c)mae cyfeiriad at “newid i drefniadau etholiadol” yn gyfeiriad at newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol;
(d)mae cyfeiriad at “newid i sir wedi ei chadw” yn gyfeiriad at newid i ardal sir wedi ei chadw;
(e)mae cyfeiriad at “newid i ffin prif ardal” yn gyfeiriad at—
(i)newid y ffin i brif ardal;
(ii)diddymu prif ardal;
(iii)cyfansoddi prif ardal newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Trefi Newydd 1981 (p. 64) (dynodi ardaloedd o dir ar gyfer trefi newydd) sy’n dynodi unrhyw ardal o dir yn safle i dref newydd, a
(b)pan na fo’r ardal a ddynodwyd felly ar gyfer y dref newydd yn cael ei chynnwys yn ei chyfanrwydd o fewn prif ardal.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad gweithredu’r gorchymyn, hysbysu’r Comisiwn gan bennu’r prif ardaloedd y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt.
(3)Rhaid i’r Comisiwn, pan ddaw hysbysiad i law o dan is-adran (2), gynnal adolygiad o dan adran 23 o unrhyw brif ardaloedd a bennir yn yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 24 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o un neu ragor o’r cymunedau yn ei ardal—
(a)o’i wirfodd, neu
(b)ar gais—
(i)cyngor cymuned yn ei ardal, neu
(ii)cyfarfod cymunedol yn ei ardal.
(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais cyngor cymuned neu gyfarfod cymunedol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—
(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd o dan adolygiad,
(ii)y brif ardal,
y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(ii), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.
(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 26) arfer swyddogaethau’r cyngor o dan yr adran hon.
(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 25 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o un neu ragor o gymunedau mewn prif ardal.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaethau prif gyngor o dan adran 25(5),
(b)pan fo prif gyngor wedi cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn o dan adran 36(5) ac —
(i)argymhelliad y cyngor yw na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned,
(ii)nad yw’r cyngor a’r Comisiwn yn gallu cytuno ar yr addasiadau hynny i’r argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn angenrheidiol iddo eu gweithredu,
(iii)nad yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol i weithredu unrhyw un neu ragor o argymhellion y cyngor, neu
(iv)bod y Comisiwn o’r farn na chafodd yr adolygiad ei gynnal gan y cyngor yn unol â’r Rhan hon neu fel arall ei fod yn ddiffygiol mewn modd sylweddol,
(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o un neu ragor o’i gymunedau.
(3)Y newidiadau y caiff Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—
(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd dan adolygiad,
(ii)y brif ardal,
y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(b)(iv) neu (c), caiff adennill y gost o wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.
(5)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.
(6)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 26 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o un neu ragor o siroedd wedi eu cadw.
(2)Caiff y Comisiwn argymell y newidiadau hynny i ardal sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(3)Wrth ystyried a yw newidiadau i ardal y sir sydd wedi ei chadw yn rhai priodol (p’un ai mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon neu fel rhan o unrhyw adolygiad arall) rhaid i’r Comisiwn roi sylw, yn benodol, i’r dibenion dros gadw’r siroedd sydd wedi eu cadw.
(4)At ddibenion y Rhan hon, ystyr “sir wedi ei chadw” yw unrhyw sir a grëwyd gan Ddeddf 1972 yn sir yng Nghymru fel yr oedd hi yn union cyn pasio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan Ddeddf 1972 neu’r Ddeddf hon a bod y ddarpariaeth honno’n ail-lunio ei ffiniau.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 27 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o gymaint o ffin ardal llywodraeth leol (sy’n cynnwys, at ddibenion yr adran hon, sir wedi ei chadw)—
(a)sy’n gorwedd o dan farc penllanw pan fo’r llanw’n ganolig, a
(b)nad yw’n ffurfio ffin gyffredin ag ardal llywodraeth leol arall.
(2)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)cynnwys o fewn yr ardal llywodraeth leol unrhyw ardal o’r môr nad yw, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o ardal llywodraeth leol arall, a
(b)allgáu unrhyw ardal o’r môr sydd, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o’r ardal llywodraeth leol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 28 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)