xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.
(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.
(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.
(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 7 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)