xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCOMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyolLL+C

8Prif weithredwrLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.

(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F1y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F2ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

[F3(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]

(3)Cyn penodi prif weithredwr [F4o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

[F5(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—

(a)yn aelod Seneddol;

(b)yn Aelod o’r Senedd;

(c)yn aelod o awdurdod lleol;

(d)yn swyddog awdurdod lleol;

(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.]

9Staff eraillLL+C

(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.

(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 9 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

10ArbenigwyrLL+C

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

11Comisiynwyr cynorthwyolLL+C

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“comisiynydd cynorthwyol”) y caiff, at ddibenion adran 13, ddirprwyo swyddogaethau iddo.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn—

(a)aelod Seneddol;

(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)aelod o awdurdod lleol F6...;

(d)swyddog i awdurdod lleol F7...;

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 11 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)