6Statws etcLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r person sydd am y tro yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau, yn enw’r swydd honno, i fod yn gorfforaeth undyn.
(2)Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol i’w ystyried yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n un sy’n arfer unrhyw swyddogaeth ar ran y Goron.
(3)Ond ystyrir bod yr Archwilydd Cyffredinol yn was i’r Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 6 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)