RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU
PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU
5Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i berson a oedd wedi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol o dan y Rhan hon, ond nad yw bellach yn y swydd honno.
(2)
Cyn gwneud y canlynol—
(a)
cymryd swydd o ddisgrifiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu
(b)
ymrwymo i gytundeb neu drefniant arall o ddisgrifiad a bennir felly,
rhaid i’r person ymgynghori ag unrhyw berson a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3)
Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o’r canlynol—
(a)
y swyddi a bennir at ddibenion is-adran (2)(a);
(b)
y cytundebau a’r trefniadau eraill a bennir at ddibenion is-adran (2)(b).
(4)
Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys am gyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol.
(5)
Rhaid i’r person beidio â gwneud y canlynol—
(a)
dal swydd y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer gan neu ar ran—
(i)
y Goron,
(ii)
y Cynulliad Cenedlaethol, neu
(iii)
Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b)
bod yn aelod, cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i berson a restrir yn is-adran (7).
(6)
Rhaid i’r person beidio â darparu gwasanaethau, yn rhinwedd unrhyw swydd, i’r canlynol—
(a)
y Goron, neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron,
(b)
y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad,
(c)
Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Comisiwn, neu
(d)
person a restrir yn is-adran (7).
(7)
Dyma’r personau—
(a)
person y mae ei gyfrifon neu ei ddatganiad o gyfrifon yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt neu iddo yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;
(b)
person y mae astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian a wneir neu a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad yn ymwneud ag ef;
(c)
person y mae astudiaeth a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol ag adran 145A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (astudiaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gorff neu gyrff perthnasol) yn ymwneud ag ef;
(d)
landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn darparu cyngor neu gymorth iddo o dan adran 145D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
(e)
person y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol swyddogaethau mewn perthynas ag ef, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag ef, yn rhinwedd adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (trosglwyddo swyddogaethau Gweinidogion Cymru);
(f)
person y mae cyfrifon a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (3) o’r adran honno;
(g)
person y mae cyfrifon a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno.
(8)
Ond nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal person rhag dal unrhyw un o’r swyddi canlynol—
(a)
Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol;
(b)
Archwilydd Cyffredinol yr Alban;
(c)
Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
(9)
Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.