RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU
PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU
4Anghymhwyso
(1)
Ni all person gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).
(2)
Mae person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).
(3)
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person—
(a)
yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;
(b)
yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—
(i)
y Goron,
(ii)
y Cynulliad Cenedlaethol, neu
(iii)
Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)
yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;
(d)
yn Aelod o Senedd yr Alban;
(e)
yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;
(f)
yn gyflogai i Swyddfa Archwilio Cymru.