32DehongliLL+C
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Archwilydd Cyffredinol” (“Auditor General”) yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 1);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
mae i “corff llywodraeth leol” (“local government body”) yr ystyr a roddir yn adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;
ystyr “Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly Commission”) yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed, yn cynnwys—
(a)deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon, yn unrhyw Ddeddf arall gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn unrhyw Fesur Cynulliad, a
(b)is-ddeddfwriaeth (yn ystyr Deddf Dehongli 1978) p’un a yw wedi ei wneud o dan Ddeddf Cynulliad, neu Fesur Cynulliad neu fel arall;
ystyr “Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government”) yw Llywodraeth Cynulliad Cymru;
ystyr “SAC” (“WAO”) yw Swyddfa Archwilio Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 32 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(s)